Gerardus Mercator 1512-1594
Cefndir
Cynllun menter gan y Comisiwn Ewropeaidd yw Mercator a sefydlwyd yn sgìl twf yn y diddordeb mewn ieithoedd lleiafrifol a rhanbarthol ac hefyd y cynnydd yn angen cymunedau'r ieithoedd hynny i gyfnewid profiadau a chydweithredu mewn cyd-destun Ewropeaidd. Trwy Mercator, daeth yn bosib darparu a chyfnewid gwybodaeth mewn dull mwy systematig.
Fframwaith
Rhwydwaith o dair canolfan ymchwil a dogfennu yw Mercator. Mae i bob un o'r tair canolfan ei rhaglen ei hun yn seiliedig ar thema, a swyddogaeth arbenigol sy'n gysylltiedig â ieithoedd lleiafrifol a rhanbarthol: mae Mercator Addysg yn y Fryske Akademy, Ljouwert (Iseldiroedd), yn astudio addysg ar bob lefel; deddfwriaeth iaith a iaith gweinyddiaeth gyhoeddus yw thema Mercator Deddfwriaeth, yn sefydliad CIEMEN, Barcelona (Sbaen); ac mae Mercator Cyfryngau, ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth yn ymdrin â'r wasg a'r cyfryngau.
Amcanion
Prif amcan Mercator-Addysg yw cywain, storio a dosbarthu gwybodaeth trwy gyfrwng rhwydwaith dogfennu a gwybodaeth ar gyfer ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol yn yr Undeb Ewropeaidd. Nod y prosiectau ymchwil yw gwneud cymariaethau ymhlith cymunedau'r ieithoedd.
Grwpiau Targed
Y grwpiau a dargedir gennym yw gwneuthurwyr polisi, athrawon, myfyrwyr, ymchwilwyr, newyddiadurwyr a'r cyhoedd.
Cyllid
Caiff Mercator Addysg ei gyllido gan yr Undeb Ewropeaidd a'r Fryske Akademy.
Gerardus Mercator 1512-1594
Daearyddwr, mapiwr a mathemategydd oedd Gerardus Mercator, ac fe'i ganwyd yn Fflandrys. Mae'n fwyaf adnabyddus am y dechneg newydd ym maes mapio a enwyd ar ei ôl, sef Tafluniad Mercator. Oherwydd eu hansawdd bu ei fapiau yn ffynhonnell a gopïwyd gan genedlaethau
o fapwyr.
Gerhard Kremer - alias Gerardius Mercator
Gerard Mercator i bob pwrpas yw taid y grefft fodern o wneud mapiau. Ei enw'n wreiddiol oedd Gerhard Kremer. O ran ei bwysigrwydd i hanes cartograffeg caiff ei gymharu â Ptolemy, yr ysgolhaig o Alecsandria yn yr Aifft. Ganwyd Mercator yn Rupelmonde yn Fflandrys ac fe astudiodd ddaearyddiaeth, cartograffeg a mathemateg ym Mhrifysgol Leuven (Louvain) yng Ngwlad Belg. Cyhoeddodd ei fap cyntaf ym 1537 yn 25 oed - sef map o wlad Palestina. O 1537 tan 1540 bu Gerardus Mercator yn arolygu a mapio Fflandrys. Ym 1538 gwnaeth ei fap cyntaf o'r byd a'i gyhoeddi. Map a seiliwyd ar fap Ptolemy oedd hwn. Collwyd mapiau Ptolemy yn llwyr yn Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol Tywyll. Diolch i ysgolheigion Arabaidd arbedwyd nifer o fapiau Ptolemy ac fe'u dychwelwyd i Ewrop yn ystod cyfnod y Dadeni.
Tafluniad Mercator
Ym 1552 symudodd Gerardius Mercator i Duisburg i osgoi erledigaeth grefyddol. Ym 1554 cynhyrchodd fap chwe phanel o Ewrop. Ym 1568 defnyddiodd Mercator ddull newydd o ddangos map gan ddefnyddio llinellau cyfochrog 90 gradd i'r lledredau a'r nawnlinau. Mewn gwirionedd nid Mercator greodd y dechneg newydd, ond ef oedd y mapiwr cyntaf i'w rhoi ar waith. Bu Tafluniad Mercator yn gam mawr ymlaen i forwriaeth. Ei anfantais oedd anghymesuredd maint. Po agosaf y mae ardal at y pegynnau, mwyaf i gyd yw ei faint. Dangosir yr Ynys Las er enghraifft 16 gwaith yn fwy na'i maint gwirioneddol.
Cyhoeddwyd prif waith Mercator, sef atlas byd mewn tair cyfrol, mewn sawl argraffiad o 1585 ymlaen ac ar ôl iddo farw ym 1594. Mercator oedd y cyntaf i ddefnyddio'r gair atlas. Ym 1604 cyhoeddodd mapiwr enwog arall, sef Jodocus Hondius, a oedd wedi cael gafael ar blatiau gwreiddiol Mercator, sawl argraffiad yn rhagor. I bob pwrpas, yr hyn a wnaeth y genhedlaeth nesaf o fapwyr oedd copïo o atlas byd Mercator.